Sian Gwenllian Ymgeisydd Etholiad Cynulliad 2016

Llais newydd ....llwyth o brofiad
 
Mae Siân Gwenllian yn awyddus i fod yn lais newydd yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan fynnu chwarae teg i Arfon ac i Ogledd Cymru.
 
Bu’n newyddiadurwr efo’r BBC a HTV ym Mangor cyn dod yn gynghorydd sir dros Y Felinheli, y pentref lle cafodd ei magu. Hi yw Pencampwr Busnesau Bach Gwynedd, ar ôl bod yn arwain cyn hynny ar Addysg a Chyllid.
 
Magodd Siân bedwar o blant ar ei phen ei hun wedi i’w gwr, Dafydd Vernon o Benygroes, farw o ganser 17 mlynedd yn ôl. Roedd hyn yn her enfawr ond mae wedi ei gwneud yn gryf a thosturiol. Aeth y plant i’r ysgol yng Nghaernarfon.
 
Wedi ei haddysgu yn Ysgol Friars, Bangor ac ym mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd, mae’n adnabyddus trwy’r etholaeth fel gwleidydd effeithiol, egwyddorol ac agos atoch.
 
Hi ydi’r olynydd naturiol i Alun Ffred Jones, Aelod Cynulliad presennol Arfon, sy’n ymddeol.
Siân Gwenllian   #SianPlaid2016
Sgwrs efo Siân

1.       Beth di’ch oed chi?  59

2.       Beth yw eich statws priodasol ac a oes gennych chi blant? Os oes, faint?   Gweddw.  Pedwar o blant.

3.       Beth yw eich gwaith llawn amser?   Cynghorydd Sir / Gohebydd llawrydd.  

4.       Ble rydych yn byw?  Yn Y Felinheli (rhwng Bangor a Chaernarfon).

5.       Beth wnaeth eich ysbrydoli i fynd mewn i wleidyddiaeth?  Dyhead i weld fy ngwlad yn cyrraedd ei llawn photensial. 

6.       Pam ydych chi / fyddech chi’n Aelod Cynulliad da?   Mi fyddwn yn llais effeithiol i bobl fy etholaeth, a byddwn yn defnyddio fy ynni i helpu i wneud Cymru yn genedl decach a hyderus. 

7.       Beth ydi eich cefndir addysgol a gwaith?  Mynychu Ysgol Gyfun Friars, Bangor, prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd.   Hyfforddi fel gohebydd.   Wedi gweithio ym maes newyddion, materion cyfoes, darlledu, cyfathrebu, cyhoeddi a marchnata.  

8.       Beth ydi’r sialensau mwyaf sy’n wynebu Cymru?  Creu economi gref, mynd i’r afael a than-gyflawni addysgol a thlodi, datblygu’r GIG, lleihau biwrocratiaeth, sicrhau cyfran deg o’r gacen i Ogledd Cymru.   

9.       Pam ydych chi eisiau cynrychioli’r ardal rydych yn ymgeisio drosti?  Fel mod i’n medru bod yn llais newydd cryf i’r ardal dw i’n hannu ohoni, sefyll i fyny dros Ogledd Cymru gan hefyd adeiladu ar lwyddiannau yr Aelod Cynulliad presennol, Alun Ffred Jones, sy’n ymddeol.

10.   Sut dylai gwleidyddion Cymru gynnau diddordeb pobl yn y Cynulliad?  Cyflwyno negeseuon clir a chyson; annog datblygiad gwasg Gymreig rymus; gwneud llawn ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol i greu deialog gydag etholwyr.

11.   Pwy ydi eich arwyr?  Y Suffragettes.   . 

12.   Pa gerddoriaeth fyddech chi’n fynd efo chi ar ynys bellennig a beth fyddai eich un moethusrwydd?   CD ddiweddara Owain Gwynedd.   Potel o win o winllan Pant Du, Dyffryn Nantlle.

 

Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd