Preifatrwydd

Polisi preifatrwydd

Dyma Bolisi Preifatrwydd Plaid Cymru – The Party of Wales.

 

Mae’r Polisi Preifatrwydd ar gael mewn fformatiau hygyrch eraill megis ffont fras. Os dymunwch gael copi mewn fformat hygyrch, cysylltwch â’n Swyddog Diogelu Data.

 

Crëwyd y Polisi Preifatrwydd  i ddangos ymrwymiad Plaid Cymru i ddiogelu eich data ac i fod yn dryloyw ynghylch y modd yr ydym yn delio â hwy.

 

Bydd Plaid Cymru yn prosesu eich data yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol Diogelu Data (RhCDD).

 

Cyhoeddwyd y polisi preifatrwydd hwn ar 29 Ionawr 2019.

 

Cysylltu â ni am Hawliau Gwybodaeth:

 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi hwn neu am fwy o wybodaeth am y bodd y defnyddiwn eich data neu os hoffech arfer unrhyw rai o’ch hawliau, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn:

Plaid Cymru

Tŷ Gwynfor

Cwrt Anson ourt

Glanfa’r Iwerydd

CAERDYDD CF10 4AL

 

Gallwch e-bostio [email protected]  

Gallwch ffonio 02920 472272

 

Pa wybodaeth fyddwn ni’n gasglu?

 

Mae’r mathau o wybodaeth y gallwn gasglu amdanoch yn cynnwys:

  • Enw
  • Dyddiad geni
  • Manylion Cyswllt (e.e. cyfeiriad, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn, rhif ffôn symudol, cyfryngau cymdeithasol)
  • Dewisiadau Cyfathrebu
  • Dewisiadau Marchnata Uniongyrchol
  • Data Cofrestr Etholiadol
  • Data demograffig
  • Data trafodion ariannol
  • Barn ar faterion y dydd
  • Materion y byddwch yn eu codi gyda ni
  • Eich diddordebau
  • Cyfeiriad DRh, cwcis a gwybodaeth dechnegol arall y gallwch ei rannu pan fyddwch yn ymwneud â’n gwefan

Gallwn hefyd gasglu categorïau eraill o wybodaeth megis:

  • Barn wleidyddol
  • Bwriadau pleidleisio

 

Sut yr ydym yn casglu data

 

Yr ydym yn casglu data amdanoch yn y ffyrdd canlynol:

 

Darperir gennych chi (Yn uniongyrchol):

  • Yn bersonol, pan fyddwch yn siarad ag un o’n staff neu ein gwirfoddolwyr
  • Trwy alwad ffôn, naill ai pan fyddwch chi’n galw Plaid Cymru neu y byddwn ni’n eich galw chi
  • Ar bapur, fel pan fyddwch yn dychwelyd arolwg print neu slip ateb ar daflen
  • Yn ddigidol, fel pan fyddwch yn llenwi ffurflen ar wefan neu’n ymwneud â’r Blaid ar-lein trwy ein gwefan neu lwyfannau cyfryngau cymdeithasol
  • Pan fyddwch yn cynnig neu’n holi am wirfoddoli, neu’n cymryd rhan yng ngweithgareddau’r blaid
  • Pan fyddwch yn cynnal trafodyn gyda’r Blaid, megis rhoi rhodd, ymuno, prynu cynnyrch neu dalu am ddigwyddiad
  • Pan fyddwch yn cydsynio i dderbyn e-byst marchnata, etc.
  • Pan fyddwch yn mynychu cynhadledd neu ddigwyddiad ymgyrchu

 

Ffynonellau Trydydd Parti (Yn anuniongyrchol):

  • Yn anuniongyrchol o ffynonellau  sy’n hygyrch i’r cyhoedd neu gofnodion cyhoeddus eraill, gan gynnwys y gofrestr etholiadol lawn y mae gan y Blaid hawl gyfreithiol i’w gael
  • TCC, os byddwch yn ymweld â Phencadlys Plaid Cymru

 

Mae gan Blaid Cymru hawl i gael cofnodion cofrestr etholiadol pob etholwr yng Nghymru, ac y mae’n eu derbyn. Byddwn yn derbyn fersiwn gyfoes o’r rhain bob tro y cyhoeddir cyfoesiad, bob mis fel arfer.

 

Yr ydym yn casglu data gyda’r bwriad o’i ddefnyddio yn bennaf ar gyfer gweithgareddau gwleidyddol.

 

Mae Plaid Cymru yn defnyddio’r data a gasglwn amdanoch i ffurfio llun o’r farn gyhoeddus. Byddwn yn gwneud hyn er mwyn:

  • deall y materion a’r pynciau sy’n debyg o fod yn berthnasol ac yn arwyddocaol i chi a bod yn well sail o wybodaeth i’n polisïau yn y dyfodol,
  • penderfynu a fyddwn yn anfon ein defnyddiau ymgyrchu atoch neu beidio,
  • dewis pa ddefnyddiau ymgyrchu y byddwn yn anfon atoch a pha negeseuon i’w rhoi arno,
  • gwerthuso a ydym yn meddwl eich bod yn debyg o bleidleisio a thros bwy y byddwch yn debyg o bleidleisio mewn etholiad neu refferendwm.

 

Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth a pham ein bod yn cael ei ddefnyddio

 

Sut y mae eich data a ddefnyddir yn cael ei warchod gan y gyfraith a byddwn yn defnyddio eich data yn unig pan fydd gennym reswm derbyniol dros wneud hynny. Dyma’r rhesymau y byddwn yn prosesu eich data:

  • Mewn gweithgaredd sydd yn cefnogi neu yn hyrwyddo ymwneud democrataidd (Budd y Cyhoedd), neu
  • Pan fydd gennym ddyletswydd gyfreithiol (ymrwymiad cyfreithiol), neu
  • Pan fyddwch yn rhoi cydsyniad (cydsyniad), neu
  • Er mwyn cyflawni contract gyda chi (contract), neu
  • Pan fydd gennym fudd cyfreithlon (budd cyfreithlon).

 

Mae’r gyfraith yn cyfyngu prosesu yr hyn a elwir yn “gategorïau arbennig o ddata personol”. Pennir fod gwaith Plaid Cymru o fudd sylweddol i’r cyhoedd ac y mae gennym hawl felly i brosesu categorïau arbennig o ddata personol yn ymwneud â’ch barn wleidyddol a’ch bwriadau pleidleisio.

 

Mae’r tabl isod yn rhestru esiamplau o’r modd yr ydym yn defnyddio eich data a’n cyfiawnhad a’n sail gyfreithiol dros hynny.

Pwrpas

Sail Gyfreithiol a chyfiawnhad

Canfasio Cefnogaeth Wleidyddol

Wrth wneud gweithgaredd sy’n cefnogi neu yn hyrwyddo ymwneud democrataidd a’n diddordeb cyfreithlon i adnabod cefnogwyr Plaid Cymru

Anfon negeseuon atoch am ein hymgyrchoedd a’n polisiau

Wrth wneud gweithgaredd sy’n cefnogi neu yn hyrwyddo ymwneud democrataidd a’n diddordeb cyfreithlon i roi gwybod i’r etholwyr am yr hyn mae Plaid Cymru yn wneud

Cysylltu â chi am bynciau neu ymholiadau yr ydych chi wedi dweud wrthym amdanynt

Wrth wneud gweithgaredd sy’n cefnogi neu yn hyrwyddo ymwneud democrataidd a’n diddordeb cyfreithlon i ymwneud â’r etholwyr

Prosesu a chofnodi bwriadau pleidleisio a barn wleidyddol

Wrth wneud gweithgaredd sy’n cefnogi neu yn hyrwyddo ymwneud democrataidd a’n diddordeb cyfreithlon i ddeall yr etholwyr ac adnabod cefnogwyr Plaid Cymru

Anfon arolygon atoch a phrosesu eich ymatebion

Wrth wneud gweithgaredd sy’n cefnogi neu yn hyrwyddo ymwneud democrataidd

Prosesu eich cais am aelodaeth a gweinyddu eich aelodaeth

Rheidrwydd contractaidd a’n diddordeb cyfreithlon wrth ymwneud â’n haelodau

Anfon gwybodaeth i chi drwy’r post am weithgareddau codi arian i gefnogi’r Blaid

Wrth wneud gweithgaredd sy’n cefnogi neu yn hyrwyddo ymwneud democrataidd a’n diddordeb cyfreithlon i godi arian i Blaid Cymru.

Prosesu eich rhodd a gwirio eich bod yn gymwys i wneud rhodd

Mae gennym ddiddordeb cyfreithlon i brosesu eich rhodd a dyletswydd gyfreithiol i wirio eich cymhwyster i roi symiau mwy na £500

Asesu addasrwydd darpar-aelodau a rhoddwyr gan ddefnyddio ffynonellau sydd ar gael i’r cyhoedd

Mae gennym ddiddordeb cyfreithlon i sicrhau na fydd ein haelodau a’n rhoddwyr yn bwrw sen ar enw da Plaid Cymru

Anfon negeseuon electronig i chi am ein hymgyrchoedd

Pan fyddwch yn cytuno i dderbyn e-byst gan Blaid Cymru yr ydych yn rhoi i ni eich cydsyniad i brosesu eich data at y dibenion hyn

Adnabod darpar-gefnogwyr trwy ddefnyddio data wedi’i fodelu sydd ar gael yn fasnachol

Wrth wneud gweithgaredd sy’n cefnogi neu yn hyrwyddo ymwneud democrataidd i adnabod cefnogwyr Plaid Cymru

Cynnal ymchwil farchnad wedi’i wneud yn ddienw

Mae gennym ddiddordeb cyfreithlon mewn cael ymdeimlad o farn wleidyddol gyffredinol ledled Cymru

 

 

Ein diddordebau cyfreithlon:

 

Ein hamcan yw hyrwyddo ein gwerthoedd ac ethol ymgeiswyr Plaid Cymru ar bob lefel o lywodraeth ym mhob cwr o Gymru, neu pan fyddwn yn ymgyrchu mewn refferenda. I wneud hyn, yr ydym yn dibynnu ar gefnogaeth ein haelodau, rhoddwyr, gwirfoddolwyr a chefnogwyr. Yr ydym yn dibynnu ar allu cyfathrebu ac ymwneud â’r rhai sy’n gymwys i bleidleisio yng Nghymru.

Fel aelod: Os byddwch yn ymuno â Phlaid Cymru mae gennym ddiddordeb cyfreithlon mewn prosesu eich data a chysylltu â chi am bob agwedd o’ch aelodaeth gan gynnwys gwybodaeth am yr hyn y mae gennych hawl iddo fel aelod ac am ddigwyddiadau’r Blaid; naill ai trwy’r post neu yn electronig. Mae’r blaid yn cael ei rhedeg gan ei haelodau ac felly y mae gennym ddiddordeb cyfreithlon mewn ymwneud â’r aelodau a’u cadw. Os na fyddwch yn adnewyddu eich aelodaeth o’r Blaid fe fyddwn yn parhau i anfon gwybodaeth i chi am Blaid Cymru, gan gynnwys gwybodaeth am sut i ail-ymuno, am gyfnod rhesymol wedi i’ch aelodaeth ddod i ben. Mae gennym ddiddordeb cyfreithlon hefyd i gadw eich data ar ôl i’ch aelodaeth ddod i ben, yn ogystal â dyletswydd gyfreithiol i gadw cofnod o’r trafodyn ariannol.

Fel rhoddwr: os byddwch yn rhoi arian i Blaid Cymru yna mae gennym ddiddordeb cyfreithlon i brosesu a chadw eich gwybodaeth ac i anfon defnydd marchnata atoch am ein gweithgareddau codi arian naill a’i trwy’r post neu yn electronig. Yr ydym yn cyfiawnhau hyn oherwydd y telir am ein gweithgareddau trwy roddion. Ar gyfer rhoddion dros rai trothwyau, mae rheidrwydd cyfreithiol arnom hefyd i adrodd amdanynt i’n rheoleiddiwr, y Comisiwn Etholiadol, a fydd yn cyhoeddi rhai manylion ar eu gwefan.

Fel gwirfoddolwr: Os byddwch yn gwirfoddoli i Blaid Cymru neu’n holi am wirfoddoli i’r Blaid, a heb fod yn aelod, mae gennym ddiddordeb cyfreithlon i brosesu a chadw eich gwybodaeth a chysylltu â chi am gyfleoedd i wirfoddoli.  Yr ydym yn cyfiawnhau hyn oherwydd swyddogaeth hanfodol gwirfoddolwyr adeg etholiadau ac ar adegau eraill.

Os byddwch yn mynychu digwyddiad: Os byddwch yn mynychu un o’n digwyddiadau fel cynhadledd Plaid Cymru neu un o’n digwyddiadau cymdeithasol, a heb fod yn aelod o’r Blaid, mae gennym ddiddordeb cyfreithlon i gadw eich gwybodaeth ac anfon deunydd marchnata atoch am ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol y tybiwn a fydd o ddiddordeb i chi, naill ai trwy’r post neu yn electronig. Mae gennym ddiddordeb cyfreithlon i wahodd pobl i’n digwyddiadau i godi arian hanfodol i’r Blaid, ac wedi penderfynu y byddai’r sawl sydd yn mynychu yn disgwyl derbyn gohebiaeth o’r fath gennym.

 

Gallwch yn wastad optio allan o dderbyn unrhyw negeseuon gan Blaid Cymru neu i arfer unrhyw rai o’ch hawliau cyfreithiol.

 

Yr ydym wedi ymrwymo i barchu eich hawliau ynghylch eich data a than rai amgylchiadau, bydd gennym ddiddordeb cyfreithlon mewn parhau i brosesu eich data hyd yn oed lle’r ydych wedi arfer un o’ch hawliau. Er enghraifft, os byddwch yn gofyn i ni beidio â phrosesu eich data at ddibenion marchnata uniongyrchol, yna rydym yn cyfiawnhau cadw cofnod o’r cais hwn er mwyn sicrhau ein bod yn parchu eich dymuniadau.

 

Data a Brosesir gyda’ch Cydsyniad

 

Lle’r ydym yn defnyddio cydsyniad fel ein sail gyfreithiol i brosesu eich data, neu yn prosesu categorïau arbennig o ddata ar sail eich cydsyniad penodol, mae gennych yr hawl i dynnu eich cydsyniad yn ôl ar unrhyw adeg. Nid yw hyn yn effeithio ar ein hawl i brosesu eich data cyn i chi benderfynu tynnu eich cydsyniad yn ôl.

 

 phwy yr ydym yn rhannu eich data:

 

Ni fyddwn fyth yn gwerthu eich data ond mae angen weithiau rhannu eich gwybodaeth gyda’n darparwyr gwasanaeth a phroseswyr data. Yr unig dro y byddwn yn rhannu data yw lle bo gennym gyfiawnhad a lle mae’r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny.

Yr ydym yn rhannu data gyda’r canlynol:

  • Cysylltiadau busnes ac ymgynghorwyr proffesiynol
  • Cyflenwyr
  • Darparwyr gwasanaeth
  • Sefydliadau ariannol - megis darparwyr taliadau cerdyn credyd
  • Cynrychiolwyr etholedig
  • Cyrff rheoleiddio
  • Ymchwilwyr marchnad
  • Cyrff gorfodi’r gyfraith

 

Lle’r ydym yn defnyddio darparwr gwasanaeth i brosesu eich data ar ein rhan, fe wnawn yn siŵr fod y prosesu hwn wedi ei lywodraethu trwy gontract y gellir ei orfodi’r gyfreithiol sydd yn gosod allan eu cyfrifoldebau am ddiogelu eich data a’ch hawliau.

 

Trosglwyddo eich data y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd

 

Mae rhai o’n darparwyr gwasanaeth wedi eu lleoli y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) ac fe all fod angen felly trosglwyddo eich data y tu allan i’r AEE. Lle byddwn yn trosglwyddo eich data y tu allan i’r AEE, byddwn yn gwneud yn siwr ei fod yn cael ei warchod yn yr un modd â phetai’r data y tu mewn i’r AEE.

Byddwn yn defnyddio un o’r camau diogelu isod i sicrhau hyn:

  • Lle mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi penderfyniad digonoldeb i bennu bod gwlad neu sefydliad heb fod yn yr AEE yn sicrhau lefel ddigonol o ddiogelu data.
  • Fod contract yn ei le gyda’r sawl sy’n derbyn y data yn rhoi rheidrwydd arno i ddiogelu’r data i’r un safonau â’r AEE.
  • Fod y trosglwyddo i sefydliad sy’n cydymffurfio â Tharian Preifatrwydd yr UE-UDA.

 

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich data:

 

Byddwn yn adolygu’n gyson y data a ddaliwn ac yn rheolaidd yn adolygu pa mor berthnasol ydyw a’r angen i ni ei gadw. Er nad ydym yn gosod cyfnodau penodol ar gyfer cadw data, yr ydym yn defnyddio llawer ffactor i bennu a oes angen i ni ddal ein gafael ar y data. Dyma ffactorau y byddwn yn eu hystyried:

  • Cyfnodau cadw a fynnir dan y gyfraith – er enghraifft, mae dyletswydd statudol ar Blaid Cymru i gadw gwybodaeth ariannol am gyfnod o 6 blynedd,
  • Y pwrpas y darparwyd neu y cafwyd y data,
  • Ein diddordeb cyfreithiol mewn dal ein gafael ar eich data,
  • A fydd dal ein gafael ar eich data yn torri ar eich hawliau dros eich data,
  • Oblygiadau cyfreithiol a rheolaethol a all fynnu cyfeirio at eich data,

 

Cwcis

 

Ffeil destun fechan yw cwci sy’n cael ei storio ar eich cyfrifiadur. Gallwn ddefnyddio technoleg i olrhain patrymau ymddygiad ymwelwyr â’n safle. Gall hyn gynnwys defnyddio’r ffeil “cwci” hon fyddai’n cael ei storio ar eich cyfrifiadur. Gallwch fel arfer addasu eich porwr i atal hyn rhag digwydd. Gallwn storio’r cyfeiriad rhyngrwyd y byddwch yn ei gysylltu â’n cyfrifiadur gyda’r amser a’r dyddiad y gwnaethoch gysylltu, gwybodaeth am y porwr a’r tudalennau y gwnaethoch ymweld â hwy. Defnyddir y wybodaeth hon yn unig i roi dadansoddiad ystadegol bras i ni ynghylch y defnydd a wneir o’n safle ac i fonitro diogelwch y safle.

 

 

 

Ffeiliau Log ac Ystadegau

 

Rydym yn defnyddio cyfeiriadau DRh, URL adnoddau y gofynnir amdanynt, stampiau amser ac asiantwyr-defnyddwyr HTTP i ddadansoddi tueddiadau, gweinyddu’r system a chasglu gwybodaeth ddemograffig eang at ddefnydd wedi’i gydgrynhoi. Yn ychwanegol at hyn, byddwn yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google, Inc (“Google”). Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis, i helpu i ddadansoddi sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Mae’r wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am y defnydd o’n gwefan (gan gynnwys eich cyfeiriad DRh) yn cael ei drosglwyddo i Google a’i storio ar weinyddwyr yn yr Unol Daleithiau. Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon i werthuso eich defnydd o’n gwefan, casglu ynghyd adroddiadau ar ddefnydd o’r wefan i Blaid Cymru a darparu gwasanaethau eraill ynghylch gweithgaredd y wefan a defnydd o’r Rhyngrwyd. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd partïon lle bo’r gyfraith yn mynnu hynny, neu lle mae trydydd partïon o’r fath yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad DRh ag unrhyw ddata a ddelir gan Google. Gallwch wrthod defnyddio cwcis trwy ddethol y gosodiadau priodol ar eich porwr Gwe; sylwch, fodd bynnag, dylech nodi, os gwnewch hyn efallai na fedrwch wneud defnydd llawn o’n gwefan. Trwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn cydsynio i brosesu data amdanoch gan Google fel hyn ac ar gyfer y dibenion a nodir uchod.

 

Sut y byddwn yn diogelu eich data:

Mae diogelwch eich data yn bwysig iawn i’r Blaid ac o’r herwydd yr ydym yn gofalu bod y mesurau technegol a threfniadol priodol ar gael i sicrhau bod eich data yn cael ei warchod rhag unrhyw fygythiadau a all ymddangos.

 

Eich hawliau dros eich data 

 

Hawl i gyrchu eich data: Mae gennych yr hawl i ofyn am gopi o’r wybodaeth bersonol amdanoch sydd gennym. Cais Gwrthrych am Wybodaeth yw’r enw arferol am hyn. Yr ydym yn dilyn “Cod Ymarfer Cais Gwrthrych am Wybodaeth”  SCG wrth drin ceisiadau am gyrchu data personol. Gallwch ddarllen y cod trwy fynd at https://ico.org.uk/media/for-organisations/documents/2014223/subject-access-code-of-practice.pdf

 

Hawl i gywiro eich data: Mae gennych yr hawl i ofyn am gywiro gwybodaeth anghywir neu anghyflawn amdanoch sydd gennym.

Os oes angen i chi gywiro’r wybodaeth gallwch wneud hynny trwy e-bostio [email protected].

 

 

Hawl i gael eich anghofio: Dan rai amgylchiadau, gallwn ofyn am i’r data sydd gennym amdanoch gael ei ddileu o’n cofnodion. Pan wnawn hynny, rydym yn cadw’r isafswm lleiaf o’ch gwybodaeth i barhau i barchu eich dymuniadau pan fydd eich data personol yn cael ei ddarparu nesaf i ni gan awdurdod lleol, sydd yn digwydd o leiaf unwaith y flwyddyn.

 

Hawl i gyfyngu prosesu: Mae gennych yr hawl i ofyn am i ni gyfyngu ar brosesu eich data lle’r ydych yn dadlau yn erbyn cywirdeb y data neu lle proseswyd y data yn anghyfreithlon.

 

Hawl i wrthwynebu: Mae gennych yr hawl i optio allan o ddefnyddio eich data ar gyfer marchnata uniongyrchol. Os byddwn yn prosesu eich data ar sail “diddordebau cyfreithlon” neu “dasg a wneir er budd y cyhoedd” yna mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni ddefnyddio eich data felly. Nid yw’r hawl hwn yn absoliwt, a gallwn barhau i brosesu eich data os gallwn ddangos fod seiliau cyfreithlon llethol dros y prosesu.

 

Optio Allan: Byddwn yn rhoi cyfle i chi optio allan o dderbyn gohebiaeth gennym yn rhwydd a phrydlon. E-bostiwch [email protected] os hoffech ddad-danysgrifio o dderbyn cyfoesiadau neu os hoffech i ni ddileu yn barhaol unrhyw wybodaeth bersonol sydd gan y blaid amdanoch.

 

Gwneud penderfyniadau unigol wedi’i awtomeiddio, gan gynnwys proffilio: Gallwn ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i wneud penderfyniadau amdanoch neu i greu proffil amdanoch. Mae gennych yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad o’r fath neu i’r proffilio hwnnw lle mae’n creu effeithiau cyfreithiol yn eich cylch neu lle mae’n effeithio’n sylweddol arnoch. Nid oes dim o’n prosesu yn dod i’r categori hwnnw.

 

GWYBODAETH AM BLANT

Nid yw Plaid Cymru yn prosesu unrhyw fanylion personol gan unigolion dan 14 oed heb ganiatâd y rhiant/gwarcheidwad. Mae manylion plant dan 16 oed yn cael eu prosesu at ddibenion aelodaeth yn unig.

DOLENNI I SAFLEOEDD ERAILL

Mae ein safle yn cynnwys dolenni i safleoedd a gweinyddwyr eraill. Nid yw Plaid Cymru yn gyfrifol am arferion preifatrwydd na chynnwys gwefannau o’r fath.

 

Ein swyddog diogelu data

Gareth Clubb yw ein swyddog diogelu data. Gallwch cysylltu gydag e ar 02920 472272.

Gwneud cwyn:  Os nad ydych yn hapus â’r modd y gwnaethom brosesu neu drin eich data, yna mae gennych hawl i gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG). SCG yw’r corff goruchwylio a awdurdodwyd gan Ddeddf Diogelu Data 2018 i reoleiddio trin data personol yn y Deyrnas Gyfunol. Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
SK9 5AF

Teliffon: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/concerns/

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n symudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd